Mae cwmni technoleg Google wedi cyhoeddi cynnydd yn ei elw a’i werthiant refeniw o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, yn sgil arian o hysbysebion.
Yn ei ganlyniadau o chwarter cyntaf y flwyddyn, roedd incwm y cwmni Americanaidd yn £11.4 biliwn – sy’n gynnydd o 12% ers yr un cyfnod y llynedd.
O ganlyniad, roedd elw’r cwmni hefyd 4% yn fwy na’r un adeg y llynedd ac wedi codi i £2.38 biliwn.
Er hynny, ac er bod hysbysebion wedi cynhyrchu £7.3 billiwn o incwm, roedd y canlyniadau yn is na rhagolygon arbenigwyr.
Mwy o weithwyr
Yn ogystal â chynnydd yn y gwerthiant, roedd 9,000 o bobol yn ychwanegol yn gweithio i Google o’i gymharu â’r llynedd.
Daw’r canlyniadau wrth i Google baratoi at newid sut y bydd pobol yn defnyddio’r wefan ar ffonau symudol, gyda’r cwmni yn dweud y bydd yn ffafrio gwefannau sy’n “ffôn-gyfeillgar”.