Mae heddlu ym Mharis wedi arestio dyn sy’n cael ei amau o fod yn eithafwr Islamaidd oedd yn cynllwynio ymosodiad brawychol ar eglwysi, yn ôl swyddogion yn Ffrainc.
Dywedodd y gweinidog Bernard Cazeneuve bod y dyn 24 oed o Algeria hefyd yn cael ei gyhuddo o lofruddio dynes, cyn iddo gael ei arestio ddydd Sul.
Roedd y dyn yn cael ei wylio gan yr heddlu ers y llynedd ond fe gafodd ei arestio wedi iddo saethu ei hun a galw am ambiwlans.
Yna, fe wnaeth yr heddlu ddarganfod storfa o ynnau a nodiadau oedd yn trafod targedau posib.
Mae’r diogelwch ym Mharis wedi cynyddu’n sylweddol ers i 20 o bobol, gan gynnwys tri dyn arfog, gael eu saethu’n farw yn ystod ymosodiadau ar swyddfa Charlie Hebdo ym mis Ionawr.