Llys y Goron Bryste
Mae dau ddyn wedi’u canfod yn euog o gynllwynio i gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plant.

Cafwyd John Denham, 49, a Matthew Stansfield, 34, yn euog yn Llys y Goron Bryste heddiw.

Cafwyd Denham yn euog o gynllwynio i ymosod yn rhywiol ar blentyn o dan 13 oed, ond yn ddieuog o gynllwynio i dreisio plentyn o dan 13 oed.

Cafwyd Stansfield yn euog o ddau gyhuddiad o gynllwynio i dreisio plentyn o dan 13 oed.

Daeth y rheithgor i ddyfarniadau unfrydol.

Cefndir

Roedd Denham a Stansfield yn rhan o gylch o bedoffiliaid oedd wedi ffilmio’u troseddau a’u cyhoeddi ar y we.

Fe dargedodd y cylch nifer o deuluoedd, gan annog un cwpwl i gam-drin eu babi cyn iddo gael ei eni.

Roedd y cylch yn weithgar dros ardal eang iawn o Brydain, ac fe fydden nhw’n teithio’n bell er mwyn cyflawni troseddau a gwylio camdriniaeth gyda’i gilydd ar y we.

Roedd y cylch hefyd yn cynnig canllawiau i bedoffiliaid eraill ynghylch rhoi cyffuriau i blant cyn ymosod arnyn nhw.

Daeth cadarnhad ar ddiwedd yr achos fod pum pedoffeil arall wedi’u canfod yn euog o droseddau rhyw yn dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Torcyfraith Genedlaethol.

Roedd y pump wedi pledio’n euog i amryw o droseddau gan gynnwys treisio plentyn, cynllwynio i dreisio plentyn, ymddygiad rhywiol gyda phlentyn, a rhoi sylweddau’n fwriadol i blentyn.

‘Erchyll’

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Mae’n anodd dod o hyd i’r geiriau i ddisgrifio gweithredoedd y dynion hyn, a’r niwed maen nhw wedi’i achosi.

“Mae teuluoedd y plant hyn wedi bod trwy brofiad erchyll a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cymorth amhrisiadwy wrth sicrhau’r euogfarnau hyn.”