Y Tŷ Gwyn
Cafodd person ei arestio am geisio dringo ffens ar dir y Tŷ Gwyn yn Washington nos Sul.

Dywedodd y gwasanaethau cudd fod unigolyn wedi ceisio dringo wal y Tŷ Gwyn. Cafodd yr unigolyn, sydd heb gael ei enwi, ei gymryd i’r ddalfa ac fe fydd yn cael ei gyhuddo yn y man.

Mae cyfres o fethiannau diogelwch wedi bod yn y Tŷ Gwyn yn ddiweddar, gan gynnwys digwyddiad ar 19 Medi’r llynedd pan roedd dyn gyda chyllell wedi dringo dros y ffens a rhedeg i mewn i’r Tŷ Gwyn, yn chwilio am yr Arlywydd, Barack Obama.

Dyma’r chweched tro i rywun neidio dros y ffens yn 2014, a’r unfed tro ar bymtheg  yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn ôl y gwasanaethau cudd.