Mae’r Undeb Ewropeaidd yn gwneud cwyn yn erbyn Google, gan honni bod y cwmni’n camddefnyddio’r ffaith ei fod ar flaen y gad o ran chwilota ar y we.
Mae pennaeth cystadleuaeth yr Undeb Ewropeaidd, Margrethe Vestager hefyd yn bwriadu galw am ymchwiliad i’r ffordd mae’r system Android ar gyfer ffonau symudol yn cael ei rheoli.
Dywedodd ei bod hi’n gofidio bod Google yn rhoi “mantais annheg” i’w wasanaeth cymharu siopau ei hun.
Ychwanegodd y byddai’r ymchwiliad i wasanaethau Android yn ceisio darganfod a yw cwmni Google yn dibynnu ar gytundebau heb gystadleuaeth ac yn camddefnyddio’i safle ym marchnad ffonau symudol.
Dywedodd mai’r nod oedd sicrhau nad yw cwmnïau rhyngwladol yn “amddifadu cwsmeriaid Ewropeaidd o ddewis eang nac yn tarfu ar arloesiad”.
Mae disgwyl i Margrethe Vestager gyhoeddi “datganiad o wrthwynebiadau” i arferion busnes Google maes o law.