Pobl Yazidi oedd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi y llynedd
Mae’r mudiad eithafol IS wedi rhyddhau dros 200 o bobol Yazidi ar ôl eu cadw’n gaeth am wyth mis, yn ôl swyddog diogelwch yn Irac.

Credir bod y rhan fwyaf o’r 216 o bobol sydd wedi cael eu rhyddhau mewn cyflwr gwael ac yn arddangos arwyddion o gamdriniaeth.

Roedd tua 40 o blant ymysg y rhai gafodd eu rhyddhau gyda’r gweddill yn oedrannus, yn ôl swyddogion yn ninas Kirkuk.

Nid oes rheswm wedi’i roi dros eu rhyddhau hyd yn hyn.

Cefndir

Mae o leiaf 500 o bobol Yazidi wedi cael eu lladd gan IS hyd yn hyn ac mae tua 40,000 wedi gorfod ffoi o’u cartrefi. Mae’n debyg bod IS yn eu targedu yn sgil cred eu bod yn addoli’r diafol.

Fe wnaeth IS ryddhau 200 o garchariorion Yazidi eraill ym mis Ionawr a bryd hynny fe ddywedodd swyddogion Cwrdaidd eu bod wedi bod yn ormod o faich i’r mudiad.