Mae dyn o’r Iseldiroedd a gafodd ei gipio yn Mali yn 2011, wedi’i achub gan luoedd arbennig Ffrainc.

Mewn datganiad, mae’r lluoedd yn dweud i Sjaak Rijke gael ei achub am 5yb heddiw yng ngogledd eitha’ Mali. Fe gafodd nifer o wrthryfelwyr hefyd eu dal.

Mae tua 3,000 o filwyr ar hyn o bryd yn rhan o ymgyrch i sefydlogi Mali, lle mae eithafwyr sy’n gysylltiedig ag Qaida-linked yn rhemp. Mae lluoedd Ffrainc yn gweithio gyda milwyr Mali.

Fe gafodd Sjaak Rijke ei gipio ym mis Tachwedd 2011 yn Timbuktu.