Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Gogledd Cymru fod dyn wedi marw yn dilyn damwain ar briffordd yr A470 ger Llanrwst ddoe.

Roedd y beiciwr modur wedi bod mewn gwrthdrawiad â char BMW rhyw filltir i’r de o Fetws-y-coed, tua 1.30yp bnawn Sul, Ebrill 5.

Fe gafodd tri pherson arall eu cludo i ysbytai yn dilyn y digwyddiad – un mewn Ambiwlans Awyr i Ysbyty Gwynedd ym Mangor; a dau arall i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.