Mae swyddfa’r erlynydd ym Mosgow wedi dechrau ymchwiliad troseddol, wedi i ddoliau mewn gwisgoedd Natsïaidd fynd ar werth ym mhrif siop deganau plant prifddinas Rwsia.

Mae ymchwilwyr yn ystyried dwyn cyhuddiadau o ysgogi casineb a thanseilio urddas cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd.

Fe ddaw’r achos hwn gwta fis cyn y bwriedir cynnal seremonïau mawr ledled Rwsia i nodi 70 mlynedd ers trechu’r Almaen Natsïaidd. Mae ymgyrch y Fyddin Goch yn erbyn y Natsïaid yn un o’r pethau sy’n ysgogi balchder mawr yn y wlad.

Roedd y doliau ar werth yn y Central Children’s Store, adeilad helaeth yng nghanol dinas Mosgow a fu’n gweithredu dan yr enw Detsky Mir yn y cyfnod Sofietaidd. Newydd ail-agor yr wythnos hon y mae’r siop, yn dilyn saith mlynedd o waith ail-adeiladu.