Mae tân ar rig olew yng Ngwlff Mecsico wedi lladd pedwar o weithwyr, ac mae tri arall yn parhau ar goll.

Mae cwmni Petroleos Mexicanos, neu Pemex, yn dweud iddo ddod yn ymwybodol fod gweithwyr ar goll, wrth gyfri’ pennau wedi tân ar lwyfan olew Abkatun-A Permanente yn Swnt Campeche.

Mae un o’r gweithwyr sydd ar goll yn gyflogedig gan Pemex, a’r ddau aral yn gweithio i gwmni contractio Cotemar.

Mae ymchwilwyr yn dal i geisio penderfynu sut ddechreuodd y tân a anafodd 16 o bobol – dau ohonyn nhw’n ddifrifol. Fe gafodd 300 o weithwyr eu cario oddi ar y llwyfan.

Mae Pemex, cwmni olewn gwladwriaeth Mecsico, yn dweud iddyn nhw allu osgoi unrhyw golli olew i’r môr.