Mae trafodaeth sy’n cael eu cynnal er mwyn ceisio dod i gytundeb ar raglen niwclear Iran wedi cyrraedd ei ddiwrnod olaf.

Mae gwleidyddion Iran a phump o weinidogion tramor o Brydain, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, China, Rwsia a’r Almaen (P5+1) wedi bod yn trafod y rhaglen yn y Swistir yn y gobaith o ddod i gytundeb erbyn hanner nos amser lleol.

Bwriad yr UN yw cyfyngu ar raglen niwclear Iran a chyfnewid hynny am gwtogi ar sancsiynau.

Mae Iran yn mynnu bod ei arfau niwclear yno wrth gefn ar gyfer rhesymau heddychlon, ond mae’r UN yn pryderu bod y wlad am ddechrau datblygu’r arfau.

Dyma gam cyntaf y cytundeb gyda’r gobaith y bydd cytundeb terfynol wedi cael ei ffurfio erbyn mis Mehefin.