Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn dweud fod gan etholwyr ddewis syml rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol ar Fai 7.
Mae’n rhybuddio y byddai pleidleisio dros unrhyw un heblaw’r Blaid Lafur yn cynyddu’r tebygolrwydd mai’r Ceidwadwyr fydd mewn grym yn y cyfnod nesaf.
“Mae dewis syml o flaen pleidleiswyr yn ystod yr wythnos nesaf – llywodraeth y DU wedi’i harwain gan Lafur neu’r Torïaid.
“Mae bwrw pleidlais ar gyfer unrhyw blaid arall yn cynyddu’r siawns o gael Llywodraeth Dorïaidd arall.
“Fy neges i’r bobol hynny sy’n ystyried pleidleisio dros un o’r pleidiau bychain yw hyn – rydym yn rhannu’ch barn fod y Torïaid wedi bod yn drychinebus i Gymru, a’r siawns orau sydd gyda ni o’u cicio nhw allan yw cefnogi’r unig heriwr difrifol yn yr etholiad hwn – a Llafur yw hwnnw.”
Ychwanegodd na fyddai llwyddiant i’r Blaid Werdd, y Democratiaid Rhyddfrydol na Phlaid Cymru er lles Cymru.
Gwerthoedd
Dywedodd fod gwerthoedd pob plaid yn debyg – cynnal y Gwasanaeth Iechyd, addysg dda ac economi i bawb.
“Ond fe fyddai’r cyfan oll mewn perygl pe na bai Llafur yn ennill,” meddai, “felly mae angen eu cefnogaeth yn yr etholiad hwn.”
Dywedodd mai’r gwahaniaeth sylfaenol rhwng y pleidiau yw gwariant, gan bwysleisio bod ei blaid am weld terfyn ar doriadau, tra bydden nhw’n parhau o dan y Ceidwadwyr.
“Mae dadansoddiad annibynnol yn dangos mai’r bobol dlotaf a’r mwyaf diniwed yn y gymdeithas sy’n talu’r pris am doriadau’r Torïaid.
“Dylai hynny fod yn ddigon o reswm i bleidleiswyr gefnogi Llafur…”