Mae rheithgor yn Uchel Lys Iwerddon wedi dechrau ystyried achos sydd wedi’i ddwyn gan ddyn roedd gwladwriaeth Iwerddon yn ei amau o lofruddio’i gariad.

Mae Ian Bailey, 57, yn dwyn achos yn erbyn y wladwriaeth ynghylch yr ymchwiliad i lofruddiaeth Sophie Toscan du Plantier yng ngorllewin Cork yn 1996.

Mae’r achos wedi para ryw bum mis.

Cafodd Ian Bailey ei arestio ddwywaith ar amheuaeth o lofruddio, ond ni chafodd ei gyhuddo’n ffurfiol. Cafodd Sophie Toscan du Plantier, 39, ei churo i farwolaeth y tu allan i’w chartref gwyliau yn y ddinas. Ond mae Ian Bailey yn gwadu bod â rhan yn ei marwolaeth.

Mae’r barnwr yn yr achos, John Hedigan wedi dweud wrth y rheithgor ei fod yn awyddus iddyn nhw gytuno’n unfrydol, ond ei fod yn barod i dderbyn barn y mwyafrif.

Nid penderfynu a yw Ian Bailey yn euog o’r drosedd yw tasg y rheithgor, meddai’r barnwr, na chwaith os yw’r tystion yn dweud y gwir.

Yn hytrach, bydd rhaid i’r rheithgor ystyried a oedd tri aelod o’r Gardai – heddlu Iwerddon – wedi cynllwynio i gyhuddo Ian Bailey o lofruddio drwy fygwth un o’r tystion.

Yn ogystal, bydd rhaid penderfynu a oedd yr heddlu wedi cynllwynio i annog tystion i ddweud celwydd wrth roi tystiolaeth.

Mae’r wladwriaeth yn gwadu’r cyhuddiadau.