Mae’n anorfod y bydd grwp o ddeg o wledydd Arabaidd yn ymyrryd yn filwrol yn Yemen.
Dyna farn arlywydd Yr Aifft, Abdel Fattah el-Sisi, ac mae’n debygol iawn mai Saudi Arabia fydd yn arwain yr ymgyrch.
Mae Abdel Fattah el-Sisi hefyd yn dweud ei fod o blaid ffurfio byddin ar y cyd rhwng y gwledydd Arabaidd, gan ddweud eu bod yn wynebu bygythiadau na fu eu tebyg o’r blaen.
Mae’n cyhuddo adain Shiiaidd Iran o ymyrryd yn yr ardal.
Fe ddaw’r syniad o ymosodiadau o’r awyr, dan arweiniad Saudi Arabia, mewn ymateb i ymosodiadau gan wrthryfelwyr Shiiaidd o’r enw’r Houthis, gyda chefnogaeth Iran.
Mae Iran a’r Houthis yn gwadu unrhyw gydweithio.