Mae data o flwch du awyren fu mewn damwain yn yr Alpau yn Ffrainc yn awgrymu bod un o’r peilotiaid wedi achosi’r ddamwain yn fwriadol.

Mewn cynhadledd newyddion, dywedodd erlynydd Ffrainc ei bod yn ymddangos bod y peilot, Andreas Lubitz, wedi gwneud i’r awyren ddisgyn yn fwriadol yn fuan ar ôl i’r capten adael y caban.

Mae data o’r blwch du yn awgrymu ei fod wedyn wedi gwrthod agor drws y caban er mwyn caniatáu i’r capten ddychwelyd i’w sedd.

Dywedodd erlynydd Marseille, Brice Robin, fod y peilot eisiau “dinistrio’r awyren”.

Bu farw 150 o bobl oedd ar fwrdd yr awyren Airbus A320 a oedd yn teithio o Barcelona i Dusseldorf.

Sgyrsiau

Mae’r blwch du yn cynnwys sgyrsiau rhwng y ddau beilot yn ystod hanner awr cynta’r daith ar fore dydd Mawrth, meddai.

Mae’r 20 munud cyntaf yn cynnwys sgwrs normal rhwng y ddau, ac yna gellir clywed y capten yn gofyn i’r peilot gymryd drosodd. Gellir clywed sŵn cadair yn cael ei wthio’n  ôl a drws yn cau.

Yn ddiweddarach gellir clywed y capten yn dyrnu’r drws wrth i’r peilot wrthod agos y drws “o’i wirfodd.”

Dywedodd Brice Robin  nad oedd Andreas Lubitz wedi yngan gair ar ôl i’r capten adael y caban a’i fod yn “anadlu’n normal” yn y munudau olaf cyn i’r awyren daro ochr mynydd.

Roedd y teithwyr i’w clywed yn sgrechian yn yr eiliadau cyn y ddamwain, meddai.

Roedd Andreas Lubitz yn dod o’r Almaen ac roedd yn 28 oed. Mae’n debyg ei fod wedi ymuno a Germanwings ym mis Medi 2013, yn syth ar ôl iddo orffen hyfforddi. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu ei fod yn perthyn i grwpiau brawychol, meddai Brice Robin.

Mae’r awdurdodau yn yr Almaen wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymchwiliad i Lubitz, ac mae teuluoedd y rhai fu farw wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf, meddai Brice Robin.

‘Hunllef’

Dywedodd prif weithredwr Lufthansa, Carsten Spohr, sy’n berchen cwmni Germanwings, ei fod wedi ei “synnu” y gallai’r peilot fod wedi achosi’r ddamwain yn fwriadol.

Mae’r ddamwain, meddai, “y tu hwnt i’n hunllef waethaf.”

Yn y cyfamser mae perthnasau’r rhai gafodd eu lladd wedi bod yn cyrraedd y safle yn ystod y dydd wrth i’r chwilio barhau am gyrff y 150 o bobl fu farw.