Y bardd Anne Jackson
Mae llysfab y bardd Anne Jackson wedi cael ei garcharu am oes am ei llofruddio yn ei chartref ger  Brynbuga yn dilyn ffrae.

Roedd Timothy Patrick Jackson, 49, wedi cyfaddef ei llofruddio yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd fis diwethaf ar ôl iddo newid ei ble.

Fe fydd yn gorfod treulio o leiaf 19 mlynedd dan glo cyn cael ei ystyried am barôl.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Neil Bidder QC bod y llofruddiaeth yn un “creulon” ac nad oedd amheuaeth bod Timothy Jackson wedi bwriadu lladd ei lysfam.

Cafodd Anne Jackson, a oedd hefyd yn ysgrifennu o dan yr enw Anne Cluysenaar, ei darganfod wedi’i thrywanu yn ei chartref, Little Wentwood Farm, ger Brynbuga ar 1 Tachwedd y llynedd.

Roedd Jackson, o Sheffield, wedi gwadu’r cyhuddiad ond fe newidiodd ei ble fis diwethaf wrth ymddangos drwy gyswllt fideo o garchar Caerdydd.