Nadine Aburas
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod Sammy Almahri, sy’n cael ei amau o lofruddio merch mewn gwesty yng Nghaerdydd ar Nos Galan, wedi cael ei estraddodi o Tanzania i Brydain.

Cafodd y dyn 44 oed o Efrog Newydd ei arestio gan heddlu yn Tanzania ym mis Ionawr wedi iddo ffoi i’r wlad yn dilyn marwolaeth Nadine Aburas, 28, o Gaerdydd.

Fe gafodd hi ei darganfod yn farw mewn ystafell wely yng ngwesty’r Future Inn ym Mae Caerdydd tua hanner nos ar 31 Rhagfyr, 2014.

Roedd Almahri wedi hedfan o Heathrow i Doha ar Ddydd Calan cyn teithio o Doha i Tanzania.


Sammy Almahri
Bu Heddlu De Cymru yn cydweithio gyda lluoedd Efrog Newydd a Tanzania i geisio dod o hyd i Sammy Almahri.