Mae cannoedd o bobol, gan gynnwys nifer fawr o blant, wedi cael eu herwgipio gan eithafwyr Boko Haram yn Nigeria, yn ôl swyddogion.

Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth Boko Haram ymosod ar y trigolion yn Damasak tua mis yn ôl ond dim ond heddiw mae’r wybodaeth wedi cael ei gadarnhau.

Nid oes posib dweud faint yn union o bobol sydd wedi cael eu herwgipio ar hyn o bryd ond mae’r bobol leol yn credu bod tua 500 o bobol wedi cael eu cymryd.

Dywedodd y llefarydd Mike Omeri bod yr eithafwyr wedi mynd i ysgolion cynradd yn Damasak.

Cafodd y dref ei hail-feddiannu gan fyddin Chad a Niger o ddwylo Boko Haram ar 16 Mawrth ond fe ddywedodd swyddogion bod nifer isel o drigolion yn y dref .