Mae beth bynnag ddau gar heddlu wedi’u rhoi ar dân yn ystod protestiadau yn Frankfurt, Yr Almaen, ac fe gafodd plismon ei daro gan garreg hefyd.

Roedd gwrthdystwyr yn ceisio amharu ar seremoni agoriadol pencadlys newydd Banc Canolog Ewrop.

Roedden nhw’n protestio’n erbyn mesurau i gyflwyno toriadau i wariant cyhoeddus a gostwng dyled gwledydd fel Groeg.

Mae Banc Canolog Ewrop yn mynnu bod y pencadlys newydd yn “dal i weithredu fel arfer” – a hynny er gwaetha’r ffaith bod yr heddlu wedi gosod rhwystrau a weiren bigog o gwmpas y lle. Mae rhai aelodau o staff yn gweithio o gartref, meddai’r Banc.