Mae’r archfarchnad Aldi wedi buddsoddi £59.5 miliwn i adeiladu canolfan ddosbarthu ranbarthol newydd, a swyddfeydd yng Nghaerdydd.

Mae’n debygol y bydd y ganolfan newydd creu 414 o swyddi a gallai’r buddsoddiad arwain at agor deg o siopau newydd yng Nghymru dros y bum mlynedd nesaf.

Bydd y ganolfan newydd yng Ngwynllŵg yn cyflenwi siopau yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr ac mae’r buddsoddiad hefyd wedi derbyn cymorth o £4.5 miliwn gan Lywodraeth er mwyn sicrhau bod y prosiect yn dod i Gymru.

Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru: “Mae’r cymorth gan Lywodraeth Cymru nid yn unig yn helpu i greu mwy na 400 o swyddi – ond mae hefyd yn arwain at bosibiliadau ehangach yn y gadwyn gyflenwi bwyd a diod, ac yn anuniongyrchol yn cefnogi swyddi yn y sector adeiladu.

“Bydd y ganolfan newydd yn cynnig amrywiol gyfleodd am waith i bobl Caerdydd, yr ardaloedd cyfagos a Chymoedd De Cymru.”

Creu swyddi

Meddai llefarydd ar ran Aldi: “Rydym yn falch iawn o gael cymorth Llywodraeth Cymru ac o greu dros 400 o swyddi newydd yng Nghaerdydd, gan bwysleisio ymrwymiad Aldi i Gymru.

“Rydym yn falch o allu cynnig y cyfle i fwy o bobl siopa yn Aldi ac i fanteisio ar ein prisiau isel a’n cynnyrch o safon uchel.”