Mae'r tensiwn hiliol yn Ferguson yn parhau ers y llynedd...
Mae dyn 20 oed sy’n cael ei gyhuddo o saethu dau swyddog heddlu mewn protest yn Ferguson yr wythnos diwetha’ wedi dweud nad oedd o’n ceisio targedu’r heddlu.

Yn y gwrandawiad yn St Louis, honnodd Jeffrey Williams ei fod o’n ceisio saethu at rywun oedd o wedi ffraeo â nhw.

“Nid ydym ni’n sicr os ydan ni’n ei gredu,” meddai’r erlynydd Robert McCulloch.

Cafodd y ddau heddwas eu saethu o gar, un yn ei ysgwydd a’r llall yn ei wyneb, yn ystod protest yn Ferguson ddydd Iau.

Mae’n ddilyniant i’r tensiwn hiliolsydd wedi bod yn Ferguson ers i ddyn croenddu 18 oed, Michael Brown, gael ei saethu’n farw gan heddwas gwyn y llynedd.