Mae'r corff arolygu, Estyn, yn cefnogi'r ysgol newydd
Mae disgwyl i ysgol Gymraeg i blant 3-19 oed agor yn Y Barri ym mis Medi, wedi iddi gael cymeradwyaeth gan Gyngor Bro Morgannwg.

Roedd cefnogaeth i’r cynllun i adeiladu ysgol i 1,361 o blant mewn ymgynghoriad cyhoeddus hefyd.

O dan y cynllun byddai Ysgol Gymraeg Nant Talwg ac Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yn Y Barri yn uno gan ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn yr ardal, yn ôl penaethiaid addysg.

Mae corff arholi Estyn hefyd wedi cefnogi’r syniad ac wedi dweud y byddai’n cynnal safonau addysg yn Y Barri.

“Mae’r cynnig yn annhebygol iawn o effeithio ar ysgolion eraill yn yr ardal gan fod yr uno yn ymwneud a phlant sydd wedi cofrestru’n barod yn yr ysgol ac a fyddai’n mynd yn naturiol i’r ysgol newydd pan mae hi’n agor,” meddai llefarydd.

Mae ystadegau’n dangos bod y galw am addysg Gymraeg yn yr ardal wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwetha’.

Roedd 10.26% o ddisgyblion yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2007/8 o’i gymharu â 13% yn 2012/13.