Mae adran dramor yr Unol Daleithiau’n dechrau archwilio miloedd o negeseuon e-bost gan y cyn Ysgrifennydd Gwladol, Hillary Clinton.

Mae hi wedi cael ei chyhuddo o ddefnyddio cyfrifon e-bost personol i anfon gwybodaeth sensitif pan oedd yn y swydd.

Mae’r ymchwiliad yn cael ei weld yn glec i awydd Hillary Clinton i fod yn Arlywydd nesa’r wlad yn 2016.

Rheolau

Er nad oes unrhyw awgrym ei bod wedi defnyddio’r e-byst preifat i drosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol, mae gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau reolau ynghylch gwybodaeth sensitif hefyd.

Maen nhw’n dweud bod rhaid trosglwyddo gwybodaeth felly hefyd trwy gyfryngau diogel.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol presennol, John Kerry, wedi dweud y bydd yr archwiliad yn digwydd cyn gynted â phosib ac mae Hillary Clinton ei hun yn dweud ei bod eisiau i’r cyhoedd weld y negeseuon.