Becky Watts (llun yr heddlu)
Fe fydd llysfrawd y ferch 16 oed, Becky Watts, a ddiflannodd o’i chartref ym Mryste fwy nag wythnos yn ôl yn ymddangos o flaen llys y goron heddiw ar gyhuddiad o’i llofruddio.

Fe aeth Nathan Matthews, 28 oed, gerbron llys ynadon ddoe, heb wneud mwy na chadarnhau ei enw a’i gyfeiriad.

Fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Bryste  yn ddiweddarach drwy gyswllt fideo o’r carchar.

Fe fu ei bartner Shauna Hoare, 21, hefyd gerbron y llys ddoe ar gyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac mae pedwar dyn a dynes arall yn eu hugeiniau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Darnau o gorff

Ddydd Mawrth, fe gyhoeddodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf eu bod wedi dod o hyd i ddarnau o gorff mewn tŷ yn y ddinas wrth chwilio am Becky Watts.

Dyw’r ferch ysgol ddim wedi cael ei gweld ers iddi adael ei chartref yn ardal St George o Fryste ar 29 Chwefror.