Mae llysgennad yr Unol Daleithiau yn Ne Corea mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty, wedi iddo gael ei anafu â chyllell ar ei wyneb a’i arddwrn mewn ymosodiad.
Mae lluniau gan ffotograffwyr y wasg yn dangos sut y daeth Mark Lippert dan ymosodiad gan ddyn â llafn 10 modfedd yn sgrechian y dylai Gogledd a De Corea gael eu hail-uno.
Mae llefarydd ar ran llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi condemnio’r ymosodiad a ddigwyddodd mewn canolfan gelfyddydau yn Seoul, wrth i’r llysgennad baratoi i roi darlith ar y gobaith o heddwch rhwng De a Gogledd Corea.
Mae Mark Lippert wedi cael llawdriniaeth yn dilyn yr ymosodiad, ond dydi’r anafiadau ddim yn bygwth ei fywyd.