Canghellor yr Almaen, Angela Merkel
Mae Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi galw am ddyfalbarhau gydag ymdrechion rhyngwladol i ddod â heddwch i’r Wcrain.

Wrth annerch cynhadledd diogelwch yn Munich, rhybuddiodd Angela Merkel na ellir datrys yr argyfwng trwy fodd milwrol a bod angen cymryd camau sylweddol er mwyn adfer cytundeb heddwch a wnaed ym mis Medi.

Gan gyfeirio at drafodaethau y bu ynddyn nhw yn Moscow, dywedodd ei bod yn ansicr a fydd y rhain yn llwyddo, ond ei bod hi ac arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, yn credu ei bod yn werth gwneud yr ymdrech.

Gan gydnabod nad yw cytundebau heddwch “yn cael eu hanrhydeddu”, dywedodd nad yr ateb i hynny yw peidio â cheisio cytundebau.

Dywedodd hefyd ei bod yn amheus iawn ynghylch doethineb cyflenwi arfau i’r Wcrain, rhywbeth sy’n cael annog gan rai yn America.

Yn gwrando ar ei haraith roedd arlywydd yr Wcrain, Petro Poroshenko ac is-arlywydd America, Joe Biden.

Mae cynhadledd ffôn wedi ei threfnu rhwng Angela Merkel, Francois Hollande, Petro Poroshenko ac arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yfory.