Protest yn erbyn carcharu'r tri newyddiadurwr
Mae un o newyddiadurwyr al-Jazeera wedi cael ei ryddhau gan yr heddlu yn Yr Aifft, a’i alltudio o’r wlad.

Cafodd Peter Greste, sy’n hanu o Awstralia, ei arestio ym mis Rhagfyr 2013 a’i garcharu fis Mehefin diwethaf am nifer o droseddau, gan gynnwys lledaenu newyddion anwir.

Does dim cadarnhad eto a yw’r ddau arall a gafodd eu harestio a’u carcharu, Mohamed Fahmy a Baher Mohamed wedi cael eu rhyddhau.

Roedd y tri yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn, oedd yn cynnwys cydweithio â’r Brawdoliaeth Foslemaidd i geisio cipio grym oddi ar yr Arlywydd Mohammed Morsi.

Penderfynodd llys ym mis Ionawr y dylid ail-gynnal prawf llys y tri, ond daeth cadarnhad heddiw fod Greste am gael ei anfon yn ôl i Awstralia.

Cafodd Greste a Fahmy eu ddedfrydu i saith mlynedd dan glo, tra bod Mohamed wedi’i ddedfrydu i 10 mlynedd dan glo.