Mae Gwlad yr Iorddonen wedi apelio o’r newydd am gael cyfnewid carcharor al-Qaida am beilot sydd wedi’i gipio gan y Wladwriaeth Islamaidd.

Daw’r apêl ddiwrnod wedi i fideo ymddangos o’r newyddiadurwr Kenji Goto o Siapan yn cael ei ddienyddio.

Doedd dim sôn am y peilot Muath al-Kaseasbeh yn y fideo, ac mae pryderon am ei ddiogelwch.

Yr wythnos diwethaf, mynnodd y Wladwriaeth Islamaidd fod Sajida al-Rishawi yn cael ei ryddhau er ei bod hi’n wynebu’r gosb eithaf am ei rhan mewn cyrchoedd bomio ar westai yng Ngwlad yr Iorddonen yn 2005.

Cafodd hi ei chynnig yn gyfnewid am y peilot yr wythnos diwethaf.

Rhybuddiodd yr eithafwyr Islamaidd y câi al-Kaseasbeh ei ladd oni bai bod al-Rishawi yn cael ei rhyddhau ddydd Iau.

Ond mae Gwlad yr Iorddonen yn mynnu na fyddan nhw’n ei rhyddhau hi heb brawf fod y peilot yn dal yn fyw.