Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande
Mae Arlywydd Ffrainc Francois Hollande wedi mynnu y bydd unrhyw weithredoedd gwrth-Fwslimaidd neu wrth-Semitaidd yn cael eu “cosbi’n llym” wrth iddo geisio lleddfu’r tensiynau crefyddol yn y wlad ers yr ymosodiadau brawychol wythnos diwethaf.

Mae 120,000 o filwyr yn gwarchod safleoedd mewn ymdrech i osgoi ymosodiadau eraill ac mae dwsinau o bobl sydd wedi canmol yr ymosodiadau brawychol, neu sydd wedi gwneud sylwadau gwrth-Semitaidd, wedi cael eu harestio.

Ond roedd swyddogion diogelwch ar eu gwyliadwriaeth dros nos ar ôl i gar yrru’n fwriadol at blismones oedd yn gwarchod palas yr Arlywydd.

Yn ôl yr heddlu, mae’n ymddangos nad oedd gan y digwyddiad tu allan i Balas Elysee unrhyw gysylltiad gyda’r ymosodiadau wythnos ddiwethaf. Cafodd y blismones fan anafiadau i’w choes a chafodd dau o bobl eu harestio. Roedd dau arall wedi ffoi yn y car.

Paris

Cafodd 17 o bobl eu lladd yn yr ymosodiadau ym Mharis wythnos diwethaf, ynghyd a’r tri dyn arfog.

Fe ddechreuodd yr ymosodiadau yn swyddfeydd y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo lle cafodd 12 o bobl eu saethu’n farw. Mae angladdau nifer o’r staff gafodd eu lladd yn cael eu cynnal heddiw.

Roedd y cylchgrawn wedi cael ei fygwth sawl gwaith am ddangos cartwnau o’r proffwyd Mohammed.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad arall mewn archfarchnad Iddewig.