Mae adroddiadau o Baris bod heddlu sy’n chwilio am y brodyr Kouachi wedi tanio ergydau gwn atyn nhw ac wedi eu cornelu mewn adeilad.
Y bore ma, roedd lluniau teledu’n cael eu dangos o geir heddlu’n ymlid car arall ar hyd traffordd ac mae’r adroddiadau diweddara’ yn awgrymu y gallai’r ddau ddyn fod wedi eu dal mewn gwarchae yn nhref Dammartin-en-Goele, tua 25 milltir y tu allan i Baris .
Mae adroddiadau fod Said a Cherif Kouachi, sy’n cael eu hamau o’r ymosodiad ar swyddfa’r papur newydd dychanol Charlie Hebdo, wedi cipio o leiaf un gwystl a bod un person wedi marw – ond mae heddlu Ffrainc yn gwadu’r honiad bod rhywun wedi’i ladd.
Dywedodd asiantaethau fod y ddau wedi dwyn car Peugeot o dref Montagny Sainte Felicite y bore ma a’u bod nhw erbyn hyn mewn adeilad cwmni printio mewn Ystad Ddiwydiannol ger Dammartin-en-Goele.
Mae miloedd o swyddogion heddlu wedi bod yn cynnal ymgyrch chwilio enfawr i ddod o hyd i Said a Cherif Kouachi, sy’n cael eu hamau o ladd 12 o bobol, ers tridiau.
Fe gadarnhaodd y gweinidog Bernard Cazeneuve bod yr ymgych yn canolbwyntio ar Dammartin-en-Goele, a bod cyfarfod brys wedi cael ei gynnal gyda Phrif Weinidog ac uwch-swyddogion heddlu Ffrainc.
Rhagor i ddilyn.