Carchar Bae Guantanamo
Mae’r Unol Daleithiau wedi dychwelyd pedwar dyn o Afghanistan i’w gwlad eu hunain, o garchar Bae Guantanamo yng Nghiwba.
Mae awdurdodau America yn dweud mai gweithred o ffydd yn arlywydd newydd y wlad, Ashraf Ghani, ydi hyn.
Enwau’r cyn-garcharorion ydi Mohammed Zahir, Shawali Khan, Abdul Ghani a Khi Ali Gul.
Mae yna wyth dyn arall o Afghanistan ymhlith y 132 o garcharorion sy’n parhau dan glo yn Guantanamo.