Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad yn ardal Pontyclun neithiwr.

Fe ddigwyddodd y lladrad tua 7yh mewn ty yn Stryd Tegfan, ac mae’n dilyn cyfres o ddigwyddiadau tebyg ddigwyddodd yn Mhentre’r Eglwys ddydd Iau, Rhagfyr 18.

Fe gafodd y lleidr ei styrbio pan ddaeth perchennog y ty adref, a’r gred ydi ei fod wedi ei heglu hi ar draws caeau chwarae cyfagos.

Mae’r lleidr wedi’i ddisgrifio fel dyn 20 oed, yn denau, gyda gwallt tywyll. Mae’n mesur tua 5 troedfedd 8 modfedd o daldra, ac roedd yn gwisgo crys sgwarog lliw brown a hufen, a het ddu ar ei ben.

Anyone who may have information, or may have seen someone fitting the description given should call 101 or Crimestoppers anonymously on 0800 555 111 quoting occurrence number 1400471833.