Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi i heddwas gael ei anafu mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd neithiwr.

Roedd y plismon yn tywys ambiwlans ar Manor Way tuag 8yh, pan gafodd ei daro gan gerbyd Vauxhall Zafira lliw coch.

Er i yrwraig y car gael ei harestio wedi iddi chwythu i’r bag ac i hwnnw ddangos fod gormod o alcohol yn ei gwaed, fe gafodd ei rhyddhau’n ddiweddarach.

Roedd lefel yr alcohol wedi cwympo digon erbyn iddi gymryd ail brawf yn wyddfa’r heddlu.