Mae milwyr ac awyrlu Pacistan wedi lladd o leiaf 77 o frawychwyr mewn rhanbarth ger y ffin ag Afghanistan ddyddiau ar ôl filwyr y Taliban ladd 148 o bobl mewn ysgol.

Yn y cyfamser, dywedodd erlynydd ym Mhacistan y bydd y llywodraeth yn ceisio tynnu’r fechnïaeth a roddwyd i’r rhai sy’n cael eu hamau o ymosodiadau brawylchol ym Mumbai yn 2008 yn ôl.

Roedd yr ymosodiad mewn ysgol yng ngogledd orllewin Pacistan yn gynharach yr wythnos hon wedi syfrdanu’r wlad ac mae llawer wedi bod yn galw am ddial.

Yn sgil yr ymosodiad, mae milwyr y wlad wedi taro targedau yn rhanbarth Khyber ac mae’r gosb eithaf i chwe o frawychwyr a gafwyd yn euog wedi ei gymeradwyo.