Kim Jong-Un - un o dargedau'r gwawd yn y ffilm
Mae cwmnïau ar draws y byd yn cael eu rhybuddio i wylio rhag hacwyr ar ôl i gwmni Sony Pictures Entertainment gael eu dychryn i beidio â dangos ffilm am ladd arweinydd Gogledd Corea.

Y gred yw y gall yr ymosodiad seibr ar Sony gostio miliynau o bunnau i’r cwmni ac y gallai osod patrwm ar gyfer hacwyr eraill..

Dywedodd swyddogion o’r Unol Daleithiau fod yr ymosodiad yn cynnwys bygythiadau brawychol ac wedi canolbwyntio ar greu difrod mawr i’r cwmni – yn hytrach na’r ymosodiadau arferol sy’n dwyn gwybodaeth breifat.

“Mae’r ymosodiad ar Sony wedi ein synnu, a hynny wedi i ni weld ymosodiadau seibr anferth dros y blynyddoedd,” meddai Lee Weiner, is-lywydd cwmni diogelwch Rapid7 yn Boston.

Cefndir

Echdoe, daeth cadarnhad na fyddai’r ffilm am gynllwyn i ladd Kim Jong-Un – yn cael ei ryddhau wedi’r cyfan.

Roedd hacwyr o’r enw ‘Guardians of Peace’ – sy’n debygol o fod a chysylltiad â Gogledd Corea – wedi dweud y bydden nhw’n cynnal ymosodiadau brawychol ar sinemâu oedd yn bwriadu dangos y ffilm.

Roedd disgwyl i’r ffilm, sy’n cynnwys yr actorion Seth Rogen a James Franco, gael ei chyhoeddi yn yr Unol Daleithiau Ddydd Nadolig ac ym mis Chwefror yng ngwledydd Prydain.

Ond mae’r penderfyniad wedi cael ei feirniadu gan lu o sêr Hollywood, gan gynnwys Ben Stiller, sydd wedi dweud fod y penderfyniad i ganslo’r ffilm yn ymateb i fygythiad i “ryddid mynegiant”.