Kim Jong Un
Mae llu o actorion wedi troi at wefannau cymdeithasol i ddangos eu dicter ynghylch penderfyniad Sony i beidio rhyddhau ffilm ddadleuol am arweinydd De Corea, Kim Jong-Un.
Ddoe, daeth cadarnhad na fyddai’r ffilm Kill Kim – ffilm ffuglenol am gynllwyn i ladd Kim Jong-Un – yn cael ei ryddhau wedi’r cyfan.
Dywedodd y cwmni eu bod nhw’n ymateb i fygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol, wedi i hacwyr o’r enw ‘Guardians of Peace’ ddweud y bydden nhw’n cynnal ymosodiadau brawychol ar sinemâu oedd yn bwriadu dangos y ffilm.
Roedd disgwyl i’r ffilm, sy’n cynnwys Seth Rogen a James Franco, gael ei rhyddhau yn yr Unol Daleithiau ar Ddydd Nadolig, ac ym mis Chwefror yng ngwledydd Prydain.
‘Hacwyr wedi ennill’
Ond mae’r penderfyniad wedi cael ei feirniadu gan lu o sêr Hollywood, gan gynnwys Ben Stiller.
Dywedodd Stiller fod y penderfyniad yn ymateb i fygythiad i “ryddid mynegiant”.
Dywedodd un o sêr y gyfres ‘West Wing’, Rob Lowe fod “yr hacwyr wedi ennill”.
Cymharodd y penderfyniad i beidio dangos y ffilm â chadoediad rhwng Prif Weinidog Prydain, Neville Chamberlain ac Adolf Hitler.
Dywedodd y comedïwr Jimmy Kimmel fod y penderfyniad yn “weithred giaidd”.
‘Siomedig’ – Sony
Mewn datganiad, dywedodd cwmni Sony Pictures eu bod nhw’n “parchu ac yn rhannu pryderon” actorion.
“Rydym yn drist iawn ynghylch yr ymdrech ddewr i dawelu’r broses o ledaenu ffilm, ac yn y broses, i niweidio ein cwmni, ein gweithwyr a’r cyhoedd yn America.
“Rydym yn cefnogi’n gwneuthurwyr ffilm a’u hawl i fynegi eu hunain yn rhydd ac rydym yn siomedig dros ben ynghylch y canlyniad hwn.”