Dynes yn ffoi o'r caffi ac yn rhedeg at heddlu arfog sydd wedi amgylchynu'r caffi yn Sydney
Mae pump o bobl wedi ffoi o gaffi yn Sydney lle mae dyn arfog yn cadw nifer o bobl yn wystlon.

Cafodd dau o bobl yn y caffi eu gweld yn dal baner ddu gydag ysgrifen Islamaidd arni.

Daeth y datblygiad cyntaf chwe awr ar ôl i’r argyfwng ddechrau pan lwyddodd tri dyn i ddianc drwy allanfa dan o Gaffi Lindt Chocolat yn Sydney.

Yn fuan wedyn fe redodd dwy ddynes o’r caffi at heddlu arfog sydd wedi amgylchynu’r ardal. Credir bod y ddwy yn gweithio yn y caffi.

Dywedodd dirprwy gomisiynydd Heddlu New South Wales, Catherine Burn: “Does dim gwybodaeth ar hyn o bryd i awgrymu bod unrhyw un wedi cael eu hanafu hyd yn hyn.”

Nid yw’n glir faint o bobl sy’n dal i fod yn y caffi yn Martin Place, sydd yng nghanol ardal fusnes y ddinas.

Dywedodd comisiynydd Heddlu New South Wales, Andrew Scipione nad yw’n glir beth yw cymhelliad y dyn arfog ac nad oes cadarnhad hyd yn hyn bod y digwyddiad yn ymwneud a brawychiaeth.

Ychwanegodd bod heddlu arbenigol wedi llwyddo i gysylltu â’r dyn arfog.

Mae cannoedd o blismyn arfog wedi amgylchynu’r ardal ac mae strydoedd wedi eu cau a phobl wedi gorfod gadael eu swyddfeydd.

Mae’r heddlu wedi cynghori pobl i gadw draw o’r ardal lle mae nifer o fanciau mwyaf y wlad wedi’u lleoli.