Mae un o filwyr y Cenhedloedd Unedig sy’n diodde’ o Ebola wedi cael ei hedfan i’r Iseldiroedd am driniaeth feddygol.

Mae disgwyl i’r soldiwr o Nigeria gyrraedd Ewrop y penwythnos hwn, ac fe fydd yn cael ei drin yng Nghanolfan Feddygol Prifysgol Utrecht.

Dyma’r trydydd o filwyr yr UN i gael ei daro gan y clefyd, o blith 7,700 o filwyr a heddlu yng ngorllewin Affrica. Bu farw’r ddau ddioddefwr arall.

Mae 16 o bobol a ddaeth i gysylltiad a’r milwr o Nigeria, hefyd wedi cael eu hynysu oddi wrth bobol eraill.

Mae Ebola wedi effeithio mwy na 17,500 o bobol, y mwyafrif ohonyn nhw yn Guinea, Liberia a Sierra Leone. Mae tua 6,200 ohonyn  nhw wedi marw.