Bu farw’r Frenhines Fabiola o wlad Belg, gwraig y diweddar Frenin Baudouin. Roedd hi’n 86 oed.

Fe ddaeth cadarnhad o’r palas brenhinol ei bod hi wedi marw yng nghastell Stuyvenberg ym Mrwsel.

Ni chafodd manylion am achos ei marwolaeth eu rhyddhau, ond roedd hi mewn cadair olwyn, roedd wedi bod yn edrych yn fusgrell iawn, ac roedd hi’n gwneud llai a llai o ymddangosiadau cyhoeddus.

Roedd Queen Fabiola yn boblogaidd iawn gyda’r cyhoedd yng ngwlad Belg, yn cael ei galw’n “Frenhines y Belgiaid”. Bu farw ei gwr yn 1993.