Map o'r Yemen
Mae al-Qaida wedi bygwth llofruddio ffotograffydd o Brydain sy’n cael ei gadw’n wystl yn yr Yemen ers dros flwyddyn.

Cafodd Luke Somers, sy’n ddinesydd o’r Unol Daleithiau, ei gipio ym mhrifddinas yr Yemen, Sana’a ac mae’r brawychwyr wedi creu fideo sy’n rhybuddio llywodraeth yr Unol Daleithiau y bydd yn cael ei lofruddio os ydyn nhw’n anwybyddu dymuniadau’r grŵp.

Yn y fideo, dywed Somers: “Fy enw i yw Luke Somers. Dwi’n 33 oed. Ces i fy ngeni yn Lloegr, ond mae gen i ddinasyddiaeth yn yr Unol Daleithiau a dw i wedi byw yn America am y rhan fwyaf o’m bywyd.

“Ces i fy nghipio ymhell dros flwyddyn yn ôl yn Sana’a. Yn syml, dw i’n chwilio am unrhyw gymorth a allai fy nghael i allan o’r sefyllfa hon. Dw i’n sicr bod fy mywyd mewn perygl.

“Felly wrth i fi eistedd yma, dw i’n gofyn a ellir gwneud unrhyw beth, plîs gadewch iddo gael ei wneud. Diolch yn fawr.”

Mae gan lywodraeth yr Unol Daleithiau dridiau’n unig i ymateb i ofynion y brawychwyr.

Yn y fideo, mae’r brawychwyr yn trafod gweithgarwch milwrol yn Afghanistan, Somalia, Irac a Syria.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) eisoes wedi lladd dau wystl o Brydain a thri gwystl o’r Unol Daleithiau mewn fideos sydd wedi cael eu cyhoeddi ar y we.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Prydain fesurau gwrth-frawychiaeth newydd.