Mae mwy na 1,000 o staff y GIG yn y DU wedi gwirfoddoli i ymweld â gorllewin Affrica i helpu ymdrechion Prydain i fynd i’r afael ag Ebola.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus, Jane Ellison, bod 185 o staff Iechyd Cyhoeddus Lloegr hefyd wedi gwirfoddoli.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos yr ymateb cynyddol gan staff y gwasanaeth iechyd sy’n barod i gynorthwyo â’r gwaith yn y rhanbarth yn dilyn apêl gan y prif swyddog meddygol, yr Athro Fonesig Sally Davies.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt wrth Aelodau Seneddol fis diwethaf bod 659 o staff y GIG a 130 o staff Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi gwirfoddoli i fynd i Sierra Leone.

Mae mwy na 13,200 o achosion a 4,960 o farwolaethau wedi cael eu cysylltu gydag Ebola, yn ôl ffigurau a ryddhawyd gan Sefydliad Iechyd y Byd yn yr wythnos diwethaf.

Mae achosion o’r firws wedi ei effeithio rhannau o Sierra Leone, Liberia a Guinea waethaf.