Heddlu Canada yn ystod y digwyddiad ddoe
Mae’r heddlu yng Nghanada wedi dweud mai un saethwr yn unig oedd yn gyfrifol am ladd milwr yn Ottawa ddechrau’r wythnos.

Fe fu farw milwr y tu allan i Gofeb Ryfel Canada yn y ddinas cyn i’r dyn arfog fynd i mewn i’r senedd a thanio ergydion.

Cafodd y dyn Mwslimaidd – a gafodd ei adnabod fel Michael Zehaf-Bibeau – ei saethu’n farw gan yr heddlu’n ddiweddarach.

Ychwanegodd yr heddlu nad oes perygl i’r cyhoedd bellach a’u bod nhw wedi sylweddoli mai un dyn arfog oedd yn gyfrifol, nid dau.
Yn y cyfamser mae mam Michael Zehaf-Bibeau yn dweud ei bod yn galaru dros y rhai gafodd eu lladd neu eu hanafu yn y digwyddiad, ac nid am ei mab.
Dywedodd Susan Bibeau: “Sut ydach chi’n esbonio rhywbeth fel hyn? Ry’n ni’n flin iawn.”

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Prif Weinidog Canada Stephen Harper na fyddai’r wlad yn “cael ei dychryn gan eithafwyr”.

Roedd ymosodiad tebyg ddydd Llun ar ddau filwr o Ganada gan ddyn sydd wedi’i ddylanwadu gan weithredoedd IS.

Mae lle i gredu bod IS – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – yn awyddus i ddial ar Ganada a gwledydd eraill yn y Gorllewin sydd wedi cynnal cyrchoedd awyr yn Irac a Syria.