James Foley wrth ei waith
Mae Prif Weinidog Prydain yn dweud ei bod yn “fwy a mwy tebygol” fod yr ymladdwr jihadaidd a gafodd ei ffilmio yn lladd newyddiadurwr Americanaidd yn dod o wledydd Prydain.

Y gred yw y gallai’r dyn – oedd yn cael ei alw yn ‘John’ – yn dod o Lundain ac mae David Cameron yn dweud bod hynny’n achos pryder mawr.

Yn ôl papur y Guardian, maen nhw wedi cael tystiolaeth gan gyn wystl fod y dyn yn arweinydd ar grŵp o ymladdwyr o wledydd Prydain sy’n cael eu galw yn “Beatles”.

‘Targedu’n arbennig’

Yn ôl cyn wystl arall, roedd y newyddiadurwr, James Foley, wedi cael ei dargedu’n arbennig gan herwgipiwr Islamaidd yn Syria oherwydd ei fod yn Americanwr, yn ôl cyn wystl.

Dywedodd Nicolas Henin, newyddiadurwr o Ffrainc, ei fod yn teimlo bod llywodraethau Prydain ac America yn rhoi pobol “mewn peryg” trwy beidio â thrafod gyda therfysgwyr.

Cafodd y Ffrancwr ei ddal am saith mis gyda James Foley, gan gynnwys wythnos lle’r oedden nhw wedi eu clymu at ei gilydd.

Ymgais i achub y gwystlon

Fe ddaeth yn amlwg hefyd fod carfan o luoedd arbennig America wedi mynd i Syria dros yr haf i geisio achub gwystlon Americanaidd, gan gynnwys James Foley.

Ond roedd y criw wedi methu â dod o hyd i’r gwystlon, ac fe aeth hi’n frwydr gyda milwyr y ‘Wladwriaeth Islamaidd’, y garfan sy’n eu dan yn gaeth.