Swyddog iechyd yn Nigeria
Mae’r meddyg fu’n trin dyn oedd wedi hedfan i Nigeria cyn iddo farw o Ebola, bellach wedi cael ei heintio gyda’r clefyd, meddai’r awdurdodau.

Mae nifer y rhai sydd wedi marw o Ebola yn Affrica bellach wedi cyrraedd 887.

Wrth i’r awdurdodau iechyd yn Nigeria geisio cadw eraill a allai fod wedi cael eu heintio mewn cwarantin, roedd awyren arbennig wedi gadael Liberia er mwyn symud ail genhadwr Americanaidd sydd wedi cael ei heintio gan Ebola.