Y difrod yn Gaza wedi ymosodiad Israel
Mae cadoediad arall rhwng Israel a Hamas, sydd i fod i bara am o leiaf dri diwrnod, wedi dod i rym yn Llain Gaza.

Dechreuodd y cadoediad am 8yb (6yb amser ni) fore heddiw.

Yn ystod y cadoediad 72-awr, mae Israel a Hamas am gynnal trafodaethau anuniongyrchol yn Cairo.

Maen nhw am geisio cytuno ar gytundeb ehangach a fyddai’n atal trais yn y dyfodol.

Mae ymdrechion rhyngwladol blaenorol i gyrraedd cytundeb wedi methu.

Dywedodd Israel byddai ei holl filwyr wedi cael eu tynnu allan o Gaza erbyn cychwyn y cadoediad newydd.

Mae bron i 1,900 o Balesteiniaid wedi marw yn y gwrthdaro – y rhan fwyaf ohonyn nhw yn bobl a phlant cyffredin. Mae 67 o Israeliaid wedi marw, gyda phob un ond tri ohonyn nhw’n filwyr.