Mae o leiaf 30 o bobol wedi marw wedi i bentref yng ngorllewin India gael ei gladdu yn dilyn tirlithriad.
Mae pentref Malin ar gyrion Pune yn nhalaith Maharashtra wedi dioddef dau ddiwrnod o law trwm a llifogydd a doedd dim modd i’r gwasanaethau achub gyrraedd y pentref am nifer o oriau oherwydd cyflwr y ffyrdd.
Daeth y trychineb i sylw’r awdurdodau wedi i yrrwr bws basio’r pentref a’i weld wedi’i gladdu.
Mae 30 o gyrff wedi cael eu darganfod, ac mae wyth o bobol wedi cael eu hachub hyd yma.
Mae pentrefwyr gerllaw yn helpu’r awdurdodau i godi coed a chreigiau sydd wedi disgyn.
Gallai nifer y meirw gynyddu yn ystod y dyddiau nesaf ac mae lle i gredu bod hyd at 150 o bobol yn sownd o dan rwbel.
Mae Prif Weinidog India, Narendra Modi wedi cydymdeimlo â theuluoedd y rhai fu farw ac mae un o weinidogion y llywodraeth, Rajnath Singh wedi ymweld â’r safle.
Mae 250 o weithwyr achub ac o leiaf 100 o ambiwlansys yn dal ger y pentref.
Mae tirlithriadau’n gyffredin yn India yn ystod tymor y monsŵn.
Y llynedd, bu farw 6,000 o bobol yn nhalaith Uttarakhand yn dilyn tirlithriad tebyg.