Mae byddin Israel wedi gwadu mai hi oedd yn gyfrifol am ymosodiad awyr ar ysbyty ac ar barc yn Gaza.

Mae’n dweud mai rocedi a daniwyd gan Balesteiniaid – ac a wyrodd y ffordd anghywir – oedd yn gyfrifol am y difrod i Ysbyty Shifa.

Mae swyddogion iechyd Palesteinaidd yn dweud fod deg o bobol, yn cynnwys plant, wedi cael eu lladd yn yr ymosodiad.