Mae ymladdwyr tân sydd wedi bod yn brwydro’r flamau ger gwinllanoedd Gogledd Califfornia, yn hyderus eu bod bellach mewn rheolaeth o’r sefyllfa.

Eisoes, mae tua 1,200 o bobol wedi cael eu gorfodi o’u tai yn ardal Sierra Nevada foothills i’r dwyrain o Sacramento.

Mae’r tân wedi dinistio 13 o gartrefi a 38 o adeiladau eraill yn barod, wrth iddo losgi’n wyllt yn siroedd Amador ac El Dorado. Mae preswylwyr tua 450 o dai wedi’u symud er mwyn eu diogelwch eu hunain.

Ond mae’r awdurdodau yn parhau’n wyliadwrus, wrth i ragolygon y tywydd addo mwy o wres.