Mae’r nofwraig, Georgia Davies, wedi gosod record newydd yng Ngemau’r Gymanwlad wrth ennill ei ras cynderfynol 50m dull cefn yn Glasgow heno.

Fe enillodd Davies ei rhagras mewn 27.61 eiliad, 0.2 eiliad yn gynt na Lauren Quigley o Loegr.

Hi oedd y cyflymaf o’r holl nofwyr yn y rasys cynderfynol ac felly fe fydd hi’n hyderus o allu cipio medal yn y ffeinal yfory.

Roedd y ferch 23 oed eisoes wedi torri record y Gymanwlad yn ei rhagras yn gynharach yn y bore, ac fe wellodd hi ar ei hamser eto heno.

Mae Davies eisoes wedi ennill medal arian yn y ras 100m dull cefn yn Glasgow, a pedair blynedd yn ôl fe ddaeth hi a’r fedal efydd adref o Delhi yn y ras 50m dull cefn.