Map o Gaza
Mae grŵp Hamas ym Mhalesteina wedi cyhoeddi cadoediad am 24 awr, oriau yn unig ar ôl gwrthod cynnig cyffelyb.
Roedd Hamas wedi gwrthod cynnig i ymestyn y cadoediad cyntaf hyd nes yr oedd lluoedd Israel wedi gadael Gaza a’r trigolion wedi cael dychwelyd i’w cartrefi.
Cafodd rocedi wedyn eu saethu at dir Israel ac felly fe wnaeth lluoedd Israel ail ddechrau ymosod ar Gaza.
Yn fuan wedyn fe wnaeth Hamas gytuno i gadoediad am resymau dyngarol.
Mewn datgnaiad dywedodd Sami Abu Zuhri, llefarydd Hamas “ Fel rhan o’n paratoadau ar gyfer diwedd Ramadan, ac mewn ymateb i gymodi’r Cenhedloedd Unedig a hefyd gan ystyried amodau byw ein pobl, rydym wedi cytuno efo pob carfan Balesteinaidd i gynnal cadoediad dyngarol am 24 awr yn cychwyn am 14:00 dydd Sul.”
Dywedodd llefarydd ar ran byddin Israel y bydd ei lluoedd yn parhau i ddymchwel twneli militaraidd Hamas yn ystod y cadoediad a gwrthododd gadarnhau y bydd Israel yn atal rhag saethu yn ystod y cyfnod y gofynnwyd amdano gan Hamas.